I ymaelodi dylech yn gyntaf holi eich ysgol ac ymaelodi fel rhan o gangen yr ysgol, neu os nad yw'r ysgol yn ymaelodi fel cangen, gallwch holi a oes cangen o'r Urdd yn cwrdd yn lleol fel Adran Bentref / Aelwyd.
Os nad oes cangen ysgol nac Adran Bentref / Aelwyd yn eich ardal gallwch ymaelodi fel unigolyn trwy argraffu'r ffurflen ymaelodi yma ac anfon siec o £6.00 yr aelod cyn 22ain o Hydref 2010, neu £6.50 ar ôl y dyddiad yma at Swyddog Aelodaeth, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EY.
( 01970 613 102 e-bost:
aelodaeth@urdd.org Ffacs: 01970 626 120 )
Cofiwch mae'n rhaid i bawb fod yn aelod o'r Urdd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd, ac mae'n rhaid i'r Urdd dderbyn yr arian aelodaeth cyn rhoi rhif aelodaeth er mwyn i'r aelod fedru cystadlu ar unrhyw lefel.
Sieciau yn daladwy i "Urdd Gobaith Cymru" os gwelwch yn dda.
Ffurflenni Defnyddiol:
Ffurflen Ymaelodi Bl 10 a iau
Ffurflen Ymaelodi 16+
Ffurflen Aelodaeth Teulu
Ffurflen Cofrestru Cangen Newydd