Cefnogi
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gefnogi Eisteddfod yr Urdd, gan sicrhau fod plant a ieuenctid Cymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a'u doniau drwy gyfrwng yr ŵyl:
Rhoi tlws
![]()
Mae croeso i unrhyw unigolyn, grŵp neu gwmni roi tlws yn wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Fe roddir y tlws i'r buddugwr yn y gystadleuaeth i'w gadw am byth. Os hoffech ragor o wybodaeth am roi tlws, cliciwch yma neu cysylltwch â Nesta Jones drwy glicio yma
Gwirfoddoli
Dewch i stiwardio yn Eisteddfod yr Urdd! Mae angen cannoedd o stiwardiaid arnom i sichrau fod yr ŵyl yn llwyddiant. Cewch docyn am ddim i'r Maes ac mae'n gyfle gwych i fod yn rhan o'r bwrlwm. Cliciwch yma am ffurflen Stiwardio.
Noddi
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cwmnïau a'r sefydliadau sy'n ein cefnogi. Cliciwch yma i weld pwy yw ein noddwyr ac am wybodaeth ar sut y gall eich cwmni chi noddi'r Eisteddfod.
Oes gennych chi ddiddordeb hysbysebu, noddi neu arddangos ar y Maes?
Cliciwch yma i lawrlwytho ein Pecyn Busnes 2012.
Codi arian
Fel elusen, mae Eisteddfod yr Urdd yn ddibynnol iawn ar nifer o ffynhonnellau ariannol. Os hoffech chi gyfrannu at yr Eisteddfod neu greu digwyddiad i godi arian, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cliciwch yma i gysylltu



