CWMNI THEATR IEUENCTID URDD GOBAITH CYMRU
Wyt ti rhwng Bl.10 a 19 oed?
Oes gen ti ddiddordeb yn y Celfyddydau Perfformio?
Mae'r Urdd yn cynnig cyfle arbennig i fod yn aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Mae'n gynllun tair blynedd a fydd yn rhedeg ar lefel daleithiol (Gogledd, Canolbarth a De) am y ddwy flynedd gyntaf yna bydd y tair talaith yn uno ar gyfer llwyfannu perfformiad cwbl unigryw yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Eryri 2012.
Bydd Cwmni Theatr yr Urdd yn cynnig profiadau perfformio arbennig yn ogystal a chyfle i feithrin sgiliau a datblygu technegau newydd. Bydd hyn yn dy alluogi i greu gwaith theatr cyfoes a chyffrous.
Bydd y sgiliau yn cynnwys:
gwaith actio'n confensiynol a thrin testun, gan bwysleisio'r angen i baratoi'r perfformiwr yn feddyliol, lleisiol a chorfforol
theatr gorfforol a phresenoldeb y perfformiwr ar y llwyfan
gwaith 'corws'
y perfformiwr 'amlochrog' - gan bwysleisio'r angen i actorion ifanc feithrin sawl crefft
gwaith syrcas, meim a masg
y defnydd o gerddoriaeth fyw ar lwyfan yn lleisiol ac yn offerynnol
defnyddio arddulliau perfformio cyfoes ( megis parkour, cymysgu cerddoriaeth) i greu drama a theatr
defnyddio'r cyfryngau newydd a thechnegau digidol fel rhan o berfformiad
Rydym ni am greu theatr newydd, gyfoes a chyffrous - theatr sy'n perthyn i'r aelodau!
Bydd pwyslais ar ddatblygu syniadau'r aelodau gan eu galluogi i gyfrannu mewn ffyrdd amrywiol....Ac rydym ni angen dy syniadau a dy sgiliau di.
Bydd y cwmni yng ngofal y Cyfarwyddwr Artistig, Jeremy Turner, a thim o ymarferwyr creadigol ym mhob talaith.
Eleni bydd y cwmni'n cychwyn gyda 3 cwrs preswyl yn ystod mis Gorffennaf; un yn y Gogledd, Canolbarth a'r De ble cychwynnir ar y gwaith o ddatblygu sgiliau newydd ac edrych ar sut i gyfuno arddulliau perfformio amrywiol.
Yn ystod 2011 bydd y cwmni'n ymestyn y gwaith hyfforddi a datblygu er mwyn creu amrywiaeth o berfformiadau. Bydd y perfformiadau yn cael eu cyflwyno yn rhanbarthol ac yn ystod cwrs preswyl Cenedlaethol pan fydd yr holl aelodau yn dechrau cyd-drafod a chydweithio.
Sut mae gwneud Cais?
1. Cwblha'r ffurflen gais.
2. Atoda lun ohonot dy hun i'r ffurflen gais.
3. Ni fydd clyweliadau traddodiadol yn cael eu cynnal ar gyfer bod yn aelod o'r Theatr, ond yn hytrach gofynnwn i ti anfon clip fidio 4 munud i ni sydd yn dangos dy dalent perfformio. Gallet berfformio mewn mwy nag un arddull ( e.e. darn dawns a darn llefaru, neu ddarn canu a darn hip-hop, neu dim ond un darn) ond ni ddylai'r clip fod yn fwy na 4 munud. Nid oes angen i'r clip gael ei ffilmio yn broffesiynol, gallet ddefnyddio dy ff'n, camera digidol, flip-cam, camera fidio ayyb. Byddwn yn derbyn y clip ar CD neu tros e-bost (ni ellir anfon clipiau mwy na 10MB ar e-bost). Os nad yw'n bosib i ti recordio rhywbeth fel hyn, cysyllta ' ni. **Dim ond staff yr Urdd ac Ymarferwyr y Cwmni Theatr fydd 'r hawl i weld y clipiau a ni fyddant yn ymddangos ar y we.**
4. Does dim ots beth yw dy arddull berfformio, rydyn ni am dy weld!
5. Ar ol derbyn y clipiau fideo efallai byddwn ni am dy wahodd i glywedliad.
Am fwy o wybodaeth cysyllta â Mared Dafydd ar 01678 541015 / mared@urdd.org