Eisteddfod Nawdd 2010

 

Mae’r Eisteddfod yn cynnig cyfleoedd penigamp i noddwyr sydd am hyrwyddo eu brand a'u henw da eu hunain. Hoffai’r Urdd ddiolch yn fawr iawn i’w noddwyr a phartneriaid ar hyd y blynyddoedd sydd yn ein cefnogi i sicrhau llwyddiant yr Wyl
 
Hoffem ddiolch i’n holl noddwyr sydd yn barod wedi cadarnhau eu cefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010
 
Mae cyfleoedd arbennig yn gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd i noddi elfennau penodol o’r wyl. Mae’r Eisteddfod yn denu dros 100,00 o ymwelwyr a chynulleidfa eang ar deledu a radio gyda S4C yn darlledu dros 80 awr yr wythnos gan gyrraedd dros 400,000 o bobl gydag oddeutu 200,00 yn gwrando ar ddarllediadau dyddiol Radio Cymru o’r maes. Nid yn unig yn y Gymraeg y caiff y sylw gan fod y rhaglen uchafbwyntiau Saesneg yn denu tua 570,000 o wylwyr ar y BBC gydag erthyglau dyddiol yn y Western Mail a Daily Post.
 
Mae dros ddegawd  wedi pasio ers i Geredigion groesawu Eisteddfod yr Urdd yn ôl i’r ardal, a disgwylir i’r bwrlwm a’r croeso fod y gorau eto yn 2010!
 
Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach ynglŷn â noddi'r Urdd cysylltwch ag  Mali James Rheolwr Datblygu Corfforaethol yr Urdd ar 029 20 635692 neu ar e-bost mali@urdd.org