OCSIWN ADDEWIDION
Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 08
Column / Colofn
21 Chwefror 2008
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Gyda Dydd Gŵyl Dewi bron a chyrraedd, mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu er mwyn dathlu diwrnod nawddsant Cymru. Mae Dewi Sant yn cael ei gofio am wneud y pethau bychain, y pethau bach sy’n cynnig cymorth i bobl yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae cynnig cymorth yn dod â heddwch, hapusrwydd a thawelwch meddwl i bobl.
Mae gwirfoddolwyr ar draws sir Conwy yn brysur yn ‘gwneud y pethau bychain’ ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sy’n dod i Fae Penrhyn rhwng y 26 i’r 31 o Fai - boreau coffi, gwerthu tocynnau raffl, llenwi cartonau llefrith gwag ag arian mân - mae’r cyfan yn fodd o geisio cyrraedd y targed o £235,000 sydd angen ei godi yn lleol i gynnal yr Ŵyl tangamp hon.
Yn ôl at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, pam na ymunwch yn y dathlu ym Mwyty’r Orme View, Coleg Llandrillo nos Fercher, 5 o Fawrth gyda phryd tri chwrs ac adloniant i ddilyn. Hudwch ffrindiau gyda chi, ac ymlaciwch mewn noson yng nghwmni difyr. Mae tocynnau yn werth eu cael am £18.50, felly ffoniwch Gaynor Stythe Jones ar 01492 575008.
Mae noson arall yn cael ei chynnal yn hwyrach yn y mis i ‘Godi’r Galon’, a hynny yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn nos Sul, 16 o Fawrth. Bydd sain hyfryd jazz i’w chlywed yng nghwmni’r gyfansoddwraig a’r gantores Lleuwen Steffan, Dr Jazz a Band Mawr Sir Conwy. Mae tocynnau ar gael am £5 o Theatr Colwyn 01492 532668.
Y digwyddiad arall sy’n werth ymweliad, yn enwedig os ydych chi’n un sy’n hoff o daro bargen, ydi Gwesty Kinmel Manor, Abergele yr wythnos hon. Nos Wener, 29 o Chwefror bydd yr arwerthwr Prys Jones yn codi arian tuag at yr Eisteddfod mewn Ocsiwn Addewidion gwych. O wersi gyrru, massage i ymwelid â set y gyfres deledu Pobl y Cwm, mae rhywbeth sy’n siŵr o blesio pawb yn yr ocsiwn hwn. Gyda’r drysau yn agor am 6:30, cewch gyfle i fusnesu yn y lotiau gyda’r arwerthiant ei hun yn cychwyn am 7:30. Am wybodaeth bellach, galwch Catherine ar 01745 822978. Mwynhewch!
Pob hwyl i’r rheiny ohonoch sy’n cystadlu yn eisteddfodau cylch yr Urdd dros y penwythnos, a llongyfarchiadau mawr i’r rheiny ohonoch gafodd lwyddiant yn yr eisteddfodau Cylch wythnos diwethaf. Cofiwch wisgo’ch cennin Pedr a’ch cenhinen gyda balchder yn y rhagbrofion!