
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yw prif ŵyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop, ac mae hi'n cael ei chynnal mewn man gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Eleni buodd hi i Fferm Gloddaeth Isaf ger Llandudno. Roedd y maes yn ferw o ddigwyddiadau i'r hen a’r ifanc gyda digon i’w weld ac i’w wneud heb sôn am raglen lawn o gystadlu brwd.
Mae holl fanylion Eisteddfod Sir Conwy 2008
nawr ar gael yn yr Archif Gyda 15,000 o gystadleuwyr, 100,000 o ymwelwyr a miliwn o bobl yn gwylio ar y teledu, mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys i Gymru gyfan. Yn ogystal â’r cystadlaethau canu, llefaru, dawnsio ac offerynnol yn y pafiliwn, mae llwyth o weithgareddau

ar y maes. O' r ffair i'r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg, ac o'r wal ddringo i'r cyber-caff a'r sioeau cerdd, mae yma rywbeth at ddant pawb.
Yn 2009 cynhelir yr Eisteddfod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, gyda’r cystadlaethau llwyfan yn cael eu cynnal ar lwyfan

Theatr Donald Gordon. Dewch yn llu i fwynhau'r ŵyl!
Ni chaniateir anifeiliaid ar y maes ar wahân i gŵn y deillion.
Cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod ar 0845 257 1613 am fwy o wybodaeth.
NODER: Mae trefn y tlysau yn newid. Am fwy o fanylion, cliciwch yma
Mae gwneud copiau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi ei gyhoeddi yn anghyfreithlon.